Artistiaid ar y Blaen: Datganiadau ategol

Akram Khan: ‘Mae’n hanfodol ein bod ni, fel cenedl, yn gwerthfawrogi mynegiant trwy’r celfyddydau a’r ffordd mae’n rhoi ein bywydau mewn cyd-destun ac yn ein galluogi i nodi unrhyw foment mewn hanes – fel y Gemau Olympaidd – gan ddathlu cyrhaeddiad a chyfle a chysylltiadau darparu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Dyma beth y gallai Artistiaid ar y Blaen ei wneud, yn ogystal â dathlu’r hyn sy’n ein gwneud yn arbennig ac unigryw fel pobl. Hoffwn feddwl mai ein cyfrifoldeb ni fel artistiaid yw dweud yr hyn nad ydym yn ei wybod am ein hunain trwy ddangos pwy ydym ni’.
 
Akala: ‘Rwy’n gwybod y gall celf a cherddoriaeth drawsnewid bywydau a dod â chymunedau at ei gilydd. Gallai’r p_er hwn, ynghyd â’r cyfle mae’r Gemau Olympaidd yn ei roi, greu rhywbeth anhygoel. Mae cerddorion, rapwyr a beirdd y DU wastad wedi cynhyrchu gweithiau celf arloesol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd Artistiaid ar y Blaen yn gyfle i gyfuno ein holl gelfyddydau gwych ac amrywiol a’u dangos i’r byd mewn ffordd na welwyd o’r blaen.’
 
Balletboyz: ‘Mae Artistiaid ar y Blaen yn gyfle gwych i bob artist, yn enwedig dawnswyr, o bob cwr o’r DU ymateb i’r gweithgarwch diwylliannol cyffrous sy’n gysylltiedig â Llundain 2012, i gynnwys amrywiaeth eang o bobl greadigol ac i sicrhau y bydd y Gemau Olympaidd yn gadael rhywbeth ar ei ôl. Byddwn yn gwneud ein gorau glas, mae hynny’n sicr!’
 
Deborah Bull, Cyfarwyddwr Creadigol, y T_ Opera Brenhinol ac aelod o’r panel yn Llundain: ‘Dyma ddechrau taith gydag amrywiaeth ddiddiwedd o gyrchfannau posibl, gan roi cyfle i artistiaid greu gwaith a fydd yn tanio dychymyg pobl Lundain ac yn dangos ein doniau creadigol i’r byd.
 
Gallai’r comisiwn fod yn unrhyw beth – cerflun, dawns neu hyd yn oed ffurf newydd sbon. Rydym yn herio artistiaid i feddwl am Lundain fel cynfas gwag – a nhw sydd i ddweud wrthym ni sut maen nhw am ddathlu’r achlysur unigryw hwn; Llundain yn cynnal y Gemau Olympaidd.’