Y PANEL BEIRNIADU
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi sefydlu panel beirniadu i Artistiaid ar y Blaen gan ddefnyddio ei gronfa o ymgynghorwyr arbenigol, artistiaid allanol a staff profiadol y Cyngor Celfyddydau.
Bywgraffiadau Panel
Cadeirydd Panel Cymru yw David Alston, Cyfarwyddwr Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae Rhaglennydd Creadigol yr Olympiad Diwylliannol, Gwyn Williams, hefyd yn eistedd ar y panel. Yr aelodau eraill yw:
John Howes
Artist, Dylunydd a Cherddor. Ymddiriedolwr Cywaith Cymru.Artworks Wales, Cadeirydd Sculpture Cymru ac aelod gweithredol Ffrindiau Galeri Glynn Vivian. Bu’n gyfarwyddwr rhaglen MA Menter Celfyddydau Gweledol yn Ysgol Gelf a Ddylunio Abertawe.
Roger Moss.
Cerflunydd. Mae wedi arddangos trwy gydol y DU, Ewrop ac Awstralia dros y deugain mlynedd ddiwethaf. Bu’n Uwch Ddarlithydd a Phennaeth Cerfluniaeth yng Ngholeg Technegol a Chelf Caerfyrddin (1972-95) ac ar hyn o bryd mae’n ymchwilio cymwysiadau cerfluniaeth mewn technolegau digidol yng Nghanolfan Cenedlaethol Dylunio Cynnyrch a Datblygu Ymchwil, UWIC, Caerdydd. Mae wedi bod yn Gynghorydd Cenedlaethol i Gyngor Celfyddydau Cymru ers 2002.
Jeremy Huw Williams
Mae’r Bariton, Jeremy Huw Williams, wedi astudio yng Ngholeg St John, Caergrawnt. Gwnaeth ei berfformiad operatig cyntaf gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru ac erbyn hyn mae wedi portreadu 50 o rannau. Derbyniodd Ddyfarniad Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2008 ac mae wedi bod yn Gynghorydd Cenedlaethol i Gyngor Celfyddydau Cymru ers 2002.
Simon Harris
Dramodydd a chyfarwyddwr theatr, a hyfforddwyd yn wreiddiol yn RADA. ‘Roedd yn Gyfarwyddwr Artistig ‘Thin Language Theatre’ (1992-97) ac yn Gyfarwyddwr Artistig Sgript Cymru (2000-2007). Mae’n Gymrawd ar Raglen Arweinyddiaeth Clore a chafodd Ddyfarniad Cymru Greadigol yn 2009.
Sara Roberts
Curadur annibynnol, ysgrifennwr ac ymgynghorwr wedi’i lleoli yn Winchester. Mae wedi gweithio gyda PACA (Public Art Commissions Agency), Y Cyngor Brydeinig, The Winchester Gallery, Oriel Mostyn a’r Imperial War Museum. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn celf a thirlun.
Terry Victor
Actor, perfformwr, diddanwr, dramodydd, creuwr geiriadur bratiaith ac actifydd. Pedwar darn sy’n ran o’i stori yw’r ffilm Hedd Wyn a nomineiddiwyd am Oscar; Masque of the Red Death gan Punchdrunk; Murder on the Menu a’r New Partridge Dictionaries of Slang and Unconventional English.
Kieran Evans a Robin Turner
Five Point Reference - Mae'r artist, Kieran Evans, mewn partneriaeth gyda’r Awdur, Robin Turner, yn cynnig cysyniad aml blatfform, aml ddisgyblaeth, a fydd yn ymgysylltu pobl â thirwedd Cymru. Bydd pum t?r radio unigol, bach yn cael eu gosod mewn mannau allweddol yng Nghymru a fydd yn trawsyrru signalau radio amledd isel, a bydd yr amledd pellaf yn ffurfio pum cylch anweledig yr Olympaidd.
Simon Fenoulhet
Luminous Landscapes - Cyfres o osodiadau sain a golau ledled Cymru sy'n archwilio i natur eiconig adeiladau a thirnodau Cymru gan yr artist Simon Fenoulhet, mewn cydweithrediad â'r cyfansoddwr, John Hardy. Bydd y prosiect hefyd yn cyflwyno elfen perfformiad byw i’r rhaglen fydd yn eu galluogi i gydweithio gyda cherddorion a pherfformwyr lleol.
Heather ac Ivan Morison - Y T? Unnos -Bydd pedwar t? gwahanol mewn lleoliadau amrywiol a gwahanol yng Nghymru, o Gaerdydd i Ynys Môn yn cael eu creu gan yr artistiaid Heather ac Ivan Morison. Yn cydweithio gyda chrefftwyr lleol, bydd y tai yn cael eu hadeiladu yn defnyddio deunydd a dulliau unigryw i’w hardaloedd. Mae'r prosiect wedi cael ei ysbrydoli gan y traddodiad 't? unnos' yn y 17eg-19eg ganrif yng Nghymru.
Marc Rees - Adain Avion –Dyma aderyn 'diadennydd', sef hen awyren DC9 sydd wedi ei thrawsffurfio yn ofod celf symudol, yn teithio trwy Gymru. Wedi ei guradu gan yr artist dawns, Marc Rees, bydd Adain Avion yn ymweld â phedair tref Cymreig ac yn cydweithio’n agos gyda’r cymunedau lleol.
Andy Hazell - The Annular Forests - Mae'r artist, Andy Hazell yn cynnig pum fforest gylchol cydgysylltiedig ar uwchdir Canolbarth Cymru. Bydd pob un o'r fforestydd cylchol yn cydberthyn i bob un o'r cyfandiroedd, wedi'u plannu gyda rhywogaethau gwahanol fel eu bod yn cyflwyno wyneb unigryw beth bynnag fo'r tymor.





